Bydd y prosiect COMBI “Sgiliau cyfathrebu ar gyfer mewnfudwyr mewn cymunedau gwaith dwyieithog” yn datblygu ymarferion arloesol a chynhwysol a chanolbwyntir ar feithrin sgiliau cyfathrebu yn yr ieithoedd sydd eu hangen yn y gweithle. Mae’r prosiect yn ystyried y realiti amlieithog sydd yn y rhanbarthau Ewropeaidd.
Amcanion
Nid nod y dull dysgu cynhwysol hwn yw meithrin ar sgiliau llawn yn y ddwy iaith ond sicrhau bod yr iaith leiafrifol yn cael ei hystyried cyhyd ag y bod yn diwallu anghenion ieithyddol y gweithle.
Gweithgareddau
- Dadansoddiad o anghenion addysgol y grwpiau targed
- Datblygu modiwlau hyfforddi
- Hyfforddiant peilot
- Digwyddiadau lluosogol er mwyn lledaenu canlyniadau’r prosiect
Cynulleidfaoedd Targed
- Hyfforddwyr galwedigaethol mewn addysg oedolion yn y sector gofal iechyd a thiwtoriaid iaith i oedolion ieithoedd lleiafrifol
- Gweithwyr mudol yn y sector gofal iechyd
- Cyrff gwleidyddol, gwneuthurwyr polisi a chyrff sydd yn gyfrifol am faterion yn ymwneud ag amlieithrwydd, mewnfudwyr, cyflogaeth a gofal iechyd
- Cwmnïau, cyflogwyr – yn enwedig cwmnïau preifat gofal henoed a rheolwyr tai henoed
Corff ariannu
EACEA, Rhaglen Erasmus+, Partneriaethau Strategol ar gyfer Addysg Oedolion KA2
Hyd y prosiect: 01/09/2016 – 31/08/2019